Theatr Tsieineaidd Grauman

Theatr Tsieineaidd Grauman yn Hollywood, Los Angeles

Palas ffilm yw'r Theatr Tsieineaidd Grauman, a elwir hefyd y Theatr Tsieineaidd TCL am resymau hawliau enwi), ar y "Walk of Fame" enwog ym 6925 Hollywood Blvd. yn Hollywood, Los Angeles.

Comisiynwyd y Theatr Tsieineaidd wreiddiol yn dilyn llwyddiant Theatr yr Aifft Grauman gerllaw, a agorodd ym 1922. Mae'r ddau yn yr arddull pensaernïaeth a elwir yn Adfywiad Egsotig.[1] Cafodd ei hadeiladu gan bartneriaeth o dan arweiniad Sid Grauman dros 18 mis, gan ddechrau ym mis Ionawr 1926. Agorodd y theatr 18 Mai 1927, gyda noson agoriadol The King of Kings gan Cecil B. DeMille.[2] Ers hynny mae wedi bod yn gartref i lawer o berfformiadau cyntaf, gan gynnwys lansiad Star Wars ym 1977,[3] yn ogystal â phartïon pen-blwydd, dathliadau busnes, a thair seremoni Gwobrau Academi. Ymhlith nodweddion mwyaf nodedig y theatr yw'r blociau concrit a osodir yn y cwrt blaen, sy'n cynnwys llofnodion, olion traed, ac olion llaw enwogion byd ffilm poblogaidd o'r 1920au hyd heddiw.

Fe'i henwyd yn Theatr Tsieineaidd Grauman yn wreiddiol, yna cafodd ei ailenwi yn Theatr Tsieineaidd Mann ym 1973; parhaodd yr enw tan 2001, ac wedi hynny dychwelodd i'w enw gwreiddiol. Ar Ionawr 11, 2013, prynodd gwneuthurwr electroneg Tsieineaidd Corfforaeth TCL hawliau enwi'r adeilad.[4]

Yn 2013, dechreuodd y theatr partneriaeth gydag IMAX i drosi'r tŷ yn theatr IMAX. Mae'r gan y theatr nawr gynhwysedd eistedd o 932 person, ac yn cynnwys un o'r sgriniau ffilm mwyaf yng Ngogledd America.

  1. "Chinese Thater", Los Angeles Conservancy
  2. "Chinese Theatres – History". Mann Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-31. Cyrchwyd 2014-02-04.
  3. "Today in History: Star Wars Premieres in 1977". Lomography.com. May 25, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-21. Cyrchwyd 2014-02-04.
  4. Verrier, Richard (January 11, 2013). "China firm buys naming rights to Grauman's Chinese Theatre". Los Angeles Times. Cyrchwyd 2014-02-04.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search